Mae Scotland Yard wedi cadarnhau bore ma fod wyth o bobl wedi cael eu harestio ynglŷn â chyhuddiadau yn ymwneud â thaliadau amhriodol i’r heddlu a swyddogion gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r wyth yn cynnwys aelod o’r Lluoedd Arfog, aelod o staff y Weinidogaeth Amddiffyn a swyddog gyda heddlu Surrey.

Does dim mwy o fanylion ar gael ar hyn o bryd.