Mae’r Blaid Lafur yn dweud y bydd dros 200,000 o deuluoedd yn colli credydau treth gwerth bron i £4,000 y flwyddyn os na wnawn nhw gynyddu eu horiau gwaith yn sylweddol.

O ganlyniad i newidiadau fydd yn digwydd ar Ebrill 6 eleni, bydd yn rhaid i gyplau sydd â phlant weithio cyfanswm o 24 awr yr wythnos er mwyn derbyn Credyd Treth Gweithio yn hytrach na’r 16 awr sydd angen eu gweithio yn awr.

Mae ffigyrau swyddogol a dderbyniwyd gan lefarydd y Trysorlys y Blaid Lafur, Cathy Jamieson, yn dangos y gall 212,000 o deuluoedd, yn cynnwys 470,000 o blant, golli’r credyd oherwydd y newid.

Mewn araith i’r undeb Usdaw heddiw mae disgwyl i Rachel Reeves, Prif Ysgrifennydd Trysorlys yr Wrthblaid, ddweud ei fod yn newid “gwbl annheg gan Lywodraeth sydd yn gynyddol yn colli cysylltiad â rhieni sy’n teimlo’r wasgfa ac sy’n brwydro i jyglo gwaith a bywyd teuluol.”