Mae’r Llywodraeth yn wynebu bygythiad arall o streiciau ynglŷn  â’i chynlluniau dadleuol i ddiwygio pensiynau ar ôl i undebau sy’n cynrychioli miloedd o weithwyr y GIG, gweision sifil ac athrawon awgrymu y byddan nhw’n ystyried cynnal rhagor o streiciau.

Dywedodd undeb Unite eu bod yn bwriadu cynnal pleidlais ymhlith 100,000 o’u haelodau yn y GIG gan argymell eu bod yn gwrthod cynigion y Llywodraeth. Mae nhw’n dweud nad oes na ddigon o newidiadau i’r hyn oedd wedi ei gynnig y llynedd.

Fe fydd  undeb  athrawon yr NUT yn awgrymu wrth eu haelodau bod angen gweithredu eto, tra bod undeb PCS wedi cynnal pleidlais ymhlith 250,000 o weithwyr sifil ynglŷn â pharhau a’u hymgyrch i wrthwynebu’r cynlluniau. Mae’n bosib y bydd streiciau’n cael y cynnal ar 28 Mawrth.

Roedd hyd at ddwy filiwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus wedi cynnal streic ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â’r newidiadau i’w pensiynau.

Bwriad y Llywodraeth yw arbed £2.8 biliwn erbyn 2014/2015.