Peter Black AC
Mae angen edrych yn fanwl iawn ar y berthynas rhwng penaethiaid elusennau a gweindogion y Llywodraeth yn sgil yr adroddiad damniol am AWEMA heddiw, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Peter Black AC yn dweud bod perthynas “glud” iawn rhwng pennaeth yr elusen ag aelodau allweddol o’r Blaid Lafur wedi ymddangos yn sgil yr adroddiad heddiw, a bod angen mynd i’r afael a hynny.
Lai nag awr wedi cyhoeddi’r adroddiad damniol ar weithgareddau diweddar Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, AWEMA, fe gyhoeddodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod aelodaeth Llafur Prif Weithredwr AWEMA, Naz Malik, a’i ferch Tegwen, sydd hefyd wedi bod yn gweithio i’r corff, wedi cael ei atal nes bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.
Atal
Dywedodd Peter Black heddiw fod y ffaith bod “unigolion sydd wedi bod yn allweddol yn rhedeg yr elusen nawr wedi cael eu hatal o’r blaid Lafur yn sgil y sgandal… yn tanlinellu’r cysylltiadau agos rhwng aelodau allweddol o’r Blaid Lafur a’r elusen.”
Ychwanegodd ei fod yn coresawu’r ymchwiliad pellach gan y Comisiwn Elusennau a’r Swyddfa Archwilio, ond ei bod hi’n “glir bod angen edrych yn fanwl nawr ar y cysylltiadau rhwng gweinidogion y Llywodraeth – elusen sydd wedi ei llethu gan gamymddwyn, a’r Blaid Lafur.
Mae hefyd wedi gofyn pam mai nawr y mae’r camau hyn wedi eu cymryd, ar ôl i Lywodraeth Lafur Cymru “sefyll yn eu hunfan am 10 mlynedd wrth i filiynau o arian y trethdalwr gael ei wastraffu wrth i’r elusen chwarae gydag arian cyhoeddus.”
‘Ffiasgo’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru heddiw o fethu ag atal y “ffiasgo” o fewn AWEMA.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd arweinwydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies fod yr adroddiad yn “tanlinellu’r hyn y mae nifer ohonon ni eisoes wedi bod yn ei amau: dyma ffiasgo a ddylai fod wedi cael ei atal.”
Dywedodd Andrew RT Davies fod y Llywodraeth wedi cael digon o rybudd wyth mlynedd yn ôl, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2004/05 yn dweud bod angen gwelliannau ariannol sylweddol.
“Nawr mae ganddon ni’r llanast mwyaf mae Cymru erioed wedi ei weld, a hwnnw wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus.”
‘Angen i’r Llywdoraeth gymryd cyfrifoldeb’
Mae Andrew RT Davies nawr yn dweud bod angen i’r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am y llanast sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil yr adroddiad hefyd.
“Mae angen i weinidogion edrych yn galed ar y ffordd y maen nhw wedi gweithredu dros yr wyth mlynedd ddiwethaf ac ysytyried a ydyn nhw wedi cyflawni eu dyletswyddau yn llawn,” meddai.
Mae e hefyd yn dweud bod angen datgeliad agored ynglyn â’r “cysylltiadau amlwg rhwng Prif Weithredwr yr elusen a’r Blaid Lafur.
“Mae’r argraff o ‘ofalu am ein criw ni’n hunain’ yn dal i oedi, ac fe ddylid ymateb iddo,” meddai.
“O ystyried y cyfanswm enfawr o arian y trethdalwr sydd ynghlwm â’r achos hwn, mae angen sicrwydd arnon ni fod bob penderfyniad yn ymwneud ag AWEMA wedi cael, ac yn mynd i gael, ei gymryd gada’r diwydrwydd sy’n ddyledus, ac nid ar sail teyrngarwch plaid.”