Mae pedwar o ddynion wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechniaeth ar amheuaeth o fod ag arian yn eu meddiant gyda’r bwriad o’i ddefnyddio ar gyfer pwrpas terfysgol.
Dywedodd Heddlu’r Met eu bod wedi arestio’r dynion yn dilyn sawl cyrch ar draws De Cymru ddydd Iau a dydd Gwener diwethaf.
Cafodd y cyrchoedd eu cynnal ar eiddo ym Mhontardawe, Abertawe a Phowys.
Roedd y pedwar dyn wedi cael eu cludo i orsaf yr heddlu yn Llundain ond bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth tan fis Mai.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod dau ddyn 34 a 45 oed wedi cael eu harestio mewn adeilad ym Mhontardawe, a dyn 38 oed mewn tŷ yn Abertawe. Cafodd dyn 37 oed ei arestio mewn tŷ ym Mhowys.