Mae gyrwyr tancyr wedi cychwyn cyfres o streiciau heddiw.
Roedd undeb Unite wedi gohirio streic saith diwrnod gan weithwyr y cwmni cludiant Wincanton am 24 awr, er mwyn cynnal trafodaethau.
Yn dilyn methiant y trafodaethau, mae yna linellau piced ers pump y bore ’ma yn Immingham, Kingsbury a Stockton-on-Tees.
Dywedodd swyddog cenedlaethol Unite Matt Draper fod “Unite wedi mynd i fewn i’r trafodaethau i ddatrys y sefyllfa. Mae’n drueni nag oedd y cyflogwr yn rhannu ein ymroddiad tuag at y gweithlu.
“Mae methiant Wincanton i gynnig hyd yn cyfran o sefydlogrwydd yn eu swyddi wedi gadael yr undeb gyda dim dewis ond i ail-ddechrau’r weithred streic.”