Naz Malik
Mae honiadau o fwlio wedi cael eu gwneud yn erbyn prif swyddogion un o sefydliadau hawliau cyfartal mwyaf blaenllaw Cymru.
Neithiwr daeth hi i’r amlwg fod cyn-weithwyr a staff presennol wedi cwyno am rai o benaethiaid Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, neu AWEMA, sydd yn dal heb eu datrys.
Wrth drafod y sefydliad neithiwr, dywedodd un cyn-weithiwr wrth raglen Dragon’s Eye BBC Cymru fod Naz Malik y Prif Weithredwr yn “fwli, yn fwli creulon”.
Roedd y cyn-weithiwr hefyd yn ei gyhuddo o geisio “dychryn” staff. “Ac os oedd e’n deall ei fod e’n gallu’ch dychryn chi, byddai’n ei wneud drosodd a drosodd.
“Mae’n ddyn sy’n hoffi pŵer. Mae’n hoffi cael pŵer dros bobol. Dyna beth welais i dros fy chwe mis.”
Hefyd dywedodd y cyn-weithiwr Naseibah Al-Jeffery bod y sefydliad yn gweithredu polisi o wahaniaethu yn y lle gwaith, gyda gwahanol staff yn gorfod eistedd wrth wahanol fyrddau tra’n bwyta cinio – yn dibynnu ym mha adrannau yr oedden nhw’n cael eu cyflogi.
Mae Naz Malik wedi dweud na fydd yn gwneud unrhyw sylw nes y bydd ymchwiliadau swyddogol i’w ymddygiad yn dod i ben.
Yn y cyfamser, mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, wedi ysgrifennu at bennaeth Heddlu De Cymru yn gofyn am ymchwiliad llawn, gan fynnu nad oes ganddo ffydd yn yr ymchwiliad presennol gan Lywodraeth Cymru.
Daw’r sylwadau wedi i un o gyn-ymddiriedolwyr yr elusen feirniadu’r ymchwiliad presennol, gan ofyn pam nad oedd neb wedi bod yn holi’r dim un o aelodau bwrdd AWEMA na’u cyn-ymddiriedolwyr.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar sefyllfa’r ymchwiliad i aelodau Cynulliad ddydd Llun.
Naz Malik ac arian cyhoeddus
Mae ymchwiliad eisoes ar waith i weithgareddau Prif Weithredwr AWEMA, Naz Malik, yn sgil honiadau am anghysondebau ariannol.
Mae’r honiadau wedi dod i’r fei yn sgil adroddiad sy’n awgrymu bod nepotistiaeth a llygredd yn rhemp yn y sefydliad, sy’n gyfrifol am brosiectau gwerth dros £8 miliwn yng Nghymru.
Yn yr adroddiad mae Naz Malik yn cael ei gyhuddo o ddefnyddio arian y gymdeithas yn amhriodol i roi codiad cyflog i’w hun a rhoi swydd i’w ferch, Tegwen, heb y tryloywder priodol.
Mae eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhag blaen am gostau yn y dyfodol.
Ddoe fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod yr heddlu bellach yn cadw golwg ar yr ymchwiliad i’r sefydliad, a’u bod wedi atal grantiau gwerth £3 miliwn rhag mynd i goffrau’r AWEMA tra bod yr ymchwiliad yn parhau.