Mae niferoedd plismyn yng Nghymru a Lloegr wedi syrthio i’r lefel isaf mewn degawd, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd ddoe.

Maen nhw’n dangos pob un o bedwar heddlu Cymru wedi torri’n ôl ar eu niferoedd yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Ddiwedd Medi 2011, roedd yna 135,838 o swyddogion heddlu yn y 43 llu yng Nghymru a Lloegr, sef 6,000 yn llai nag ar unrhyw bwynt ers 2002, yn ôl data’r Swyddog Cartref.

Roedd yna gwymp o 3,000 yn y niferoedd yn y cyfnod o fis Mawrth tan fis Medi eleni yn unig.

Roedd y cwymp ymhlith gweithlu cyffredin yr heddluoedd yn fwy fyth  – 11.3% neu 9,000 o bobol.

Er hynny, roedd yna gynnydd yn nifer y cwnstabliaid arbennig gwirfoddol.

Y sefyllfa yng Nghymru

Dim ond un o’r heddluoedd Cymreig oedd yn fodlon rhoi ffigurau manwl heddiw – yn Heddlu Gogledd Cymru, roedd yna ostyngiad o 53 o swyddogion, cwymp o 3.4% o 1,558 i 1,505 o fis Medi i fis Medi.

Mae Golwg 360 yn deall fod mai yn Heddlu Gwent yr oedd y gostyngiad lleiaf yng Nghymru, tua 2%.

Ar ran Heddlu De Cymru, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Richard Lewis mai “ein pobol ni sy’n gwneud y llu yn lwyddiannus, ac sydd wedi gweithio mor galed i gynhyrchu perfformiad arbennig, gyda troseddu ar ei isaf mewn 25 mlynedd, ond mae penderfyniadau anodd angen eu gwneud.”

Y ddadl wleidyddol

Mewn araith heddiw, dywedodd Gweinidog yr Heddlu, Nick Herbert, nad arian oedd popeth ac roedd yn canmol heddluoedd am wynebu sialens y toriadau.

Dywedodd y llefarydd Llafur, Yvette Coooper, fod angen i’r Llywodraeth “wrando ar rybuddion difrifol gan brif gwnstabliaid a swyddogion heddlu ar draws y wlad cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Roedd hi’n cyhuddo’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref o “siomi cymunedau” a “throi eu cefnau ar yr heddlu”.

“Yn hytrach na brwydro i dorri troseddu, maen nhw’n torri’r heddlu.”