Fe fydd hyd at 2,900 o aelodau’r Fyddin, 1,000 o’r Llu Awyr a 300 o aelodau o’r Llynges yn colli eu swyddi, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi heddiw

Dyma  ail ran cynllun diswyddo’r Llywodraeth mewn ymdrech i wneud arbedion yn y gyllideb amddiffyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond nad oedd dewis gan y Llywodraeth i wneud diswyddiadau, ond mae’n mynnu y bydd y lluoedd arfog yn parhau’n “effeithlon”.

Dywedodd swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd 400 o Gurkhas sydd wedi gwasanaethu am fwy na chwe blynedd yn cael eu diswyddo.

Mae rhai aelodau o’r Gurkhas wedi condemnio’r penderfyniad gan ddweud ei fod yn “anheg” ac yn ergyd i gymuned y Gurkhas.