Alex Salmond
Mae Aelod Seneddol Llafur wedi ymddiswyddo fel ymgynghorydd cyfryngau’r Alban ar ôl iddo greu fideo ar-lein yn portreadu arweinydd yr SNP, Alex Salmond, fel Hitler.

Fe greodd yr Aelod Seneddol ar gyfer De Glasgow, Tom Harris, fideo o’r enw Cwymp Joan, sef parodi o’r ffilm Almaenig o 2004, Downfall, sy’n croniclo dyddiau olaf Adolf Hitler.

Mae’r is-deitlau sy’n cyd-fynd â’r fideo yn portreadu Alex Salmond fel Hitler, ac mae’n gwatwar sylwadau diweddar Aelod Ewropeaidd yr SNP, Joan McAlpine, a ddywedodd fod Llafur a’r Dems Rhydd yn “wrth-Albanaidd.”

Dywedodd Tom Harris ei fod wedi siarad â Johann Lamont, arweinydd Llafur yr Alban, a’i fod “wedi penderfynu camu lawr”.

“Mae’r fideo y gwnes i ei bostio yn hen joc sy’n cael ei ddefnyddio i barodio nifer o ffigyrau cyhoeddus.

“Ond cyd-destun yw popeth, ac yng nghyd-destun awydd Johann a finnau i wella lefel y drafodaeth wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol, a chyd-destun llawer mwy difrifol Joan McAlpine yn dweud fod pob un o wrthwynebwyr gwleidyddol yr SNP yn wrth-Albanaidd, mae fy ngweithredoedd i wedi tynnu sylw mewn ffordd anefnyddiol iawn, a dwi’n ymddiheuro am hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur yr Alban fod Tom Harris “wedi gwneud y peth anrhydeddus ar ôl dangos diffyg barn.”

Ond ychwanegodd ei bod hi’n bryd i Joan McAlpine “wneud y peth iawn ac ymddiheuro am ei diffyg barn llawer gwaeth.”

“O’i rhesymeg ei hun, maen rhaid ei bod hi’n gweld mwyafrif yr Alban yn wrth-Albaniadd felly,” meddai.

“Os nad yw hi’n gwneud y peth anrhydeddus yna dylai Alex Salmond ei diswyddo fel ei gymhorthydd gweinidogol.”