Mae gang o ladron wedi dwyn arian o beiriant arian twll yn y wal o siop ar ôl treulio chwe mis yn tyllu twnel gan troedfedd  hyd o dan faes parcio.

Fe ddigwyddodd y lladrad rywbryd nos Lun Ionawr 2 mewn siop Blockbuster yn Levenshulme, Manceinion.

Dywed ffynonellau fodd bynnag na chredir iddyn nhw gael gafael ar fwy na £6,000 o arian parod.

Roedd y lladron wedi tyllu’r twnel o dorlan rheilffordd y tu ôl i’r siop o dan faes parcio ac o dan y sylfeini.

Cafodd y twnel yn cyrraedd union o dan y peiriant twll yn y wal, lle gwnaeth y lladron dyllu trwy 15 modfedd o goncrid i ddwyn yr arian, a dianc yn ôl trwy’r twnel.

Wrth apelio am wybodaeth, meddai’r Ditectif Ringyll Ian Shore o CID Manceinion:

“Dw i erioed wedi gweld dim byd fel hyn yn fy holl yrfa.

“Mae’r bobl yma’n amlwg wedi treulio amser hir yn cynllwynio’r drosedd yma, ac mae’n amheus y bydden nhw wedi gallu cadw’u cynlluniau’n gyfrinach drwy’r adeg.

“Mae’n rhaid hefyd eu bod nhw wedi treulio llawer o amser yn yr ardal dros y misoedd diwethaf, ac efallai fod rhai pobl wedi sylwi ar rywbeth.”