Mae un o gwmniau ynni mwyaf y DU wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn torri eu biliau nwy o 5%.

Roedd EDF Energy wedi cyhoeddi ym mis Tachwedd y byddai eu biliau nwy yn codi 15.4% ond eu bod nhw nawr yn bwriadu eu torri o 5% ar ôl gostyngiad o 9.2% mewn prisiau nwy.

Mae’n dilyn honiadau dros y penwythnos bod Centrica, sy’n berchen Nwy Prydain, yn ystyried gostyngiad o 10% yn eu biliau ynni.

Dywedodd EDF mai nhw oedd yr olaf ymhlith y cwmniau ynni mawr i godi eu prisiau yn yr Hydref a’r cyntaf i gyhoeddi gostyngiad.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i arolwg  Which?, fu’n holi cwsmeriaid y chwe prif gwmni ynni, ddangos bod EDF yn ail o’r gwaelod. Dim ond 43% o’u cwsmeriaid oedd wedi dweud eu bod yn fodlon gyda gwasanaeth y cwmni.