Fe ddylai pobl gael dau ddiwrnod yr wythnos heb yfed alcohol – dyna ddywed pwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw.

Mae’r pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg yn credu y byddai rhoi’r gorau i alcohol o leia ddwy waith yr wythnos yn helpu i wella iechyd pobol.

Mae’r Aelodau Seneddol hefyd yn galw am adolygiad o’r canllawiau yfed alcohol gan fod na bryderon fod y cyngor ynglŷn a faint o unedau sy’n ddiogel i’w hyfed yn gamarweiniol.

Cafodd y canllawiau ar gyfer yfed alcohol eu pennu 25 mlynedd yn ôl – mae nhw’n argymell na ddylai dynion yfed mwy na 21 uned o alcohol yr wythnos, a 14 i ferched.

Ond roedd tystiolaeth newydd yn y 1990au, yn honni y gallai yfed alcohol atal clefyd y galon, wedi annog y Llywodraeth i adolygu’r canllawiau i bedair uned y dydd i ddynion, a thair i ferched.

Mae’r ymgynghorydd arbenigol ar alcohol Syr Ian Gilmore hefyd wedi galw am adolygiad o’r canllawiau ac wedi mynnu isafswm pris am alcohol.

Dywedodd bod na fwy o beryg i bobl sy’n yfed bob dydd i gael clefyd yr iau o’i gymharu â phobol sy’n yfed yn achlysurol.

Ychydig iawn o bobl sy’n deall y canllawiau, meddai, ac sy’n gwybod faint yw uned o alcohol.

Mae’r Llywodraeth a’r diwydiant alcohol yn bwriadu sicrhau bod mwy na 80% o ganiau a photeli yn labelu faint o unedau alcohol sydd ym mhob un, a chanllawiau yfed alcohol erbyn Rhagfyr 2013.