Diane Abbott
Mae Llefarydd Iechyd y Blaid Lafur wedi gorfod ymddiheuro am sylwadau a wnaeth hi am bobol croenwyn ar wefan Twitter ddoe, ar ol honiadau eu bod yn hiliol.

Mae’r Aelod Seneddol dros Ogledd Hackney a Stoke Newington, Diane Abbott, wedi gorfod ymddiheuro ar ôl honni bod “pobol croenwyn wrth eu bodd yn chwarae’r gêm ‘rhannu a choncro’.”

Mae Diane Abbott wedi wynebu llawer o alwadau am ei hymddiswyddiad yn sgil y sylwadau, ac mae’r Blaid Lafur ei hun wedi ei cheryddu, gan ddweud ei bod hi’n “anghywir” i wneud y fath “sylwadau cyffredinol.”

Mewn datganiad, a gyhoeddwyd gan y Blaid Lafur, dywedodd Diane Abbott ei bod hi’n “deall bod pobol wedi dadansoddi fy sylwadau fel rhai sy’n gwneud sylwadau cyffredinol ynglŷn â phobol croenwyn. Dydw i ddim yn credu mewn gwneud hyn, a dwi’n ymddiheuro am achosi unrhyw sarhad.”

Ond mewn cyfweliad cynharach gyda Sky News, doedd dim llawer o sôn am ymddiheiriad gan yr Aelod Seneddol, wrth iddi roi’r bai ar bobol oedd wedi dadansoddi ei sylwadau mewn ffordd “maleisus.”

Yn y clip o’r cyfweliad, sydd i’w weld isod, honnodd yr Aelod Seneddol ei bod yn cyfeirio at “wladychu Ewropeaidd yr 19eg ganrif,” gan ychwanegu fod y “trydar wedi ei dynnu o’i gyd-destun a bod rhai pobol wedi ei ddadansoddi mewn ffordd maleisus.”

Yn ystod y cyfweliad byw gyda Sky News, bu’n rhaid i Diane Abbott ruthro i ffwrdd i ateb galwad ffôn. Mae hi bellach wedi dod i’r amlwg mai arweinydd Llafur, Ed Miliband, oedd yn ei ffonio, a dyna pam fu’n rhaid iddi fynd i’w ateb.

Mae’r AS Ceidwadol Nadhim Zahawi wedi galw am ei hymddiswyddiad ac wedi mynnu bod yn rhaid i arweinydd Llafur Ed Miliband roi’r sac iddi os nad yw hi’n sefyll lawr.

“Gall cymdeithas iach ddim dioddef unrhyw fath o hiliaeth,” meddai, gan ychwanegu y dylai Diane Abbott, y ddynes groenddu cyntaf i gael ei hethol i Dŷ’r Cyffredin, “o bawb fod yn arwain drwy esiampl.”

Roedd yr Aelod Seneddol blaenllaw, a fu’n un o’r pedwar yn ceisio am arweinyddiaeth Llafur pan enillodd Ed Miliband, yn ymateb i ohebydd newyddiadurol ar Twitter pan ddywedodd fod “pobol croenwyn wrth eu bodd yn chwarae’r gêm ‘rhannu a choncro’. Dylen ni ddim bod yn chwarae eu gêm nhw.”

Mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur wedi dweud fod y blaid yn “anghytuno gyda thrydar Diane. Mae’n anghywir i wneud sylwadau cyffredinol am unrhyw hil, cred, neu ddiwylliant. Mae’r Blaid Lafur wastad wedi ymgyrchu yn erbyn y fath ymddygiad – fel y mae Diane Abbott.”

Darn o gyfweliad byw Diane Abbott a Sky News yn gynharach heddiw, wrth iddi dderbyn yr alwad gan Ed Miliband: