Stephen Lawrence
Mae’r heddlu yn asesu gwybodaeth newydd sydd wedi dod i law yn sgil dedfrydu dau o lofruddwyr Stephen Lawrence ddoe.

Yn yr Old Bailey ddoe, cafodd Gary Dobson, 36, a David Norris, 35, ddedfryd o garchar am oes i droseddwyr ifainc am yr ymosodiad hiliol ar Stephen Lawrence bron i 19 mlynedd yn ôl.

Fe fydd yn rhaid i Dobson dreulio isafswm o 15 mlynedd a dwy fis dan glo tra bod Norris, 35,  wedi ei ddedfrydu i 14 mlynedd a thri mis yn y carchar.

Mae’r barnwr, Mr Ustus Treacy wedi annog yr heddlu i beidio â rhoi’r gorau i ymchwilio i’r achos a dod â’r rhai eraill fu’n gyfrifol am ei ladd o flaen eu gwell.

Credir bod hyd at bump neu chwech o lanciau croenwyn wedi bod yn rhan o’r grŵp a ymosododd ar Stephen Lawrence yn Eltham, de ddwyrain Llundain yn Ebrill 1993.

Eisoes mae Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan Bernard Hogan-Howe wedi rhybuddio na ddylai’r rhai eraill oedd yn gysylltiedig â llofruddiaeth Stephen Lawrence “orffwys yn dawel yn eu gwlau”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Met bod yr heddlu yn ymchwilio i wybodaeth roedden nhw wedi ei dderbyn yn ystod y 24 awr blaenorol, a’u bod wedi derbyn nifer o alwadau ffôn gan bobl yn cynnig gwybodaeth.

Yn ôl y prif dditectif arolygydd Clive Driscoll fe fydd swyddogion yn ymweld â Dobson a Norris yn y carchar i weld a fyddan nhw’n fodlon helpu yn yr ymchwiliad. Dywedodd ei fod yn “optimistaidd” ynglŷn â symud yr achos ymlaen.