Mae’r Post Brenhinol wedi datgelu cyfres newydd o stampiau er mwyn nodi’r Gemau Olympaidd yn Llundain eleni.

Fe fydd y stampiau ar werth o 5 Ionawr eleni ym mhob un o’r 11,800 swyddfa bost yn y Deyrnas Unedig.

Dyma’r tro cyntaf i logo ymddangos ar flaen stamp swyddogol y Post Brenhinol, sydd fel arfer yn cynnwys llun o’r Frenhines yn unig.

Roedd y Post Brenhinol wedi cyhoeddi cyfres o stampiau er mwyn dathlu Gemau Olympaidd yn 1948, oedd yn dangos y pum cylch Olympaidd. Doedd yna ddim stampiau arbennig ar gyfer gemau 1908.

Fe fydd y Post Brenhinol hefyd yn cyhoeddi stampiau euraid arbennig er mwyn dathlu pob medal aur sy’n cael ei gipio gan ‘Dîm GB’.