Scott Johnson
Mae cyfarwyddwr hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson, wedi datgelu ei fod yn bwriadu gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd yr hyfforddwr a ymunodd â’r rhanbarth yn 2009 wrth BBC Sport nad oedd yn “bwriadu adfer fy nghytundeb ar ddiwedd y tymor”.

Daw ei sylwadau yn dilyn colli 22-14 oddi cartref yn erbyn y Scarlets ddoe. Mae’n debyg fod Scott Johnson yn gobeithio sicrhau swydd â chlybiau’r gynghrair Geltaidd yn yr Alban.

“Pan ymunais i â’r rhanbarth fy nghylch gwaith oedd creu systemau a fyddai yn caniatáu i ni ddatblygu talent, chwaraewyr a hyfforddwyr o’r ardal,” meddai wrth BBC Sport. “Rydw i wedi mwynhau mynd i’r afael â’r dasg honno dros y tair blynedd diwethaf.

“Rydw i’n teimlo mai dyma’r amser cywir i fi symud ymlaen at heriau eraill ond rydw i’n gwbl ymroddedig i’r Gweilch rhwng nawr a diwedd y tymor.

Mae Scott Johnson yn dod o Awstralia yn wreiddiol ond roedd yn hyfforddwr cynorthwyol i Mike Ruddock yn ystod Camp Lawn tîm rhyngwladol Cymru yn 2005.