Mae plentyn naw oed wedi marw a dwy ferch ifanc yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn yr Alban heddiw, meddai’r heddlu.
Y gred yw bod y tri phlentyn yn perthyn i’r un teulu.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i dŷ teras ar Altonhill Avenue, Kilmarnock tua 3.19am.
Roedd tân ynghyn ar ddau lawr yr adeilad ac fe gafodd yr heddlu wybod fod pobl y tu mewn.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i ddwy ferch a bachgen ifanc ar y llawr uchaf “ar ôl brwydro drwy wres tanbaid a mwg trwchus” i’w cyrraedd nhw.
Cafodd y plant eu trin am anadlu mwg nes i’r parafeddygon gyrraedd a chymryd drosodd.
Aethpwyd a’r plant i Ysbyty Crosshouse yn Kilmarnock lle y bu’r bachgen farw.
Dywedodd llefarydd fod y merched, tair a pedair oed, mewn cyflwr “sefydlog”.