Mae cwmni cynhyrchu ceir Saab wedi gwneud cais methdalu, yn ôl llys yn Sweden.

Roedd prif weithredwr y grŵp o’r Iseldiroedd, Swedish Automobile, Victor Muller, wedi gwneud y cais heddiw, meddai’r llys.

Mewn datganiad, dywedodd Swedish Automobile eu bod wedi penderfynu gwneud cais methdalu ar ôl i’r perchennog blaenorol, General Motors, wrthod eu cynlluniau i geisio achub y cwmni ddydd Sadwrn.

Oherwydd penderfyniad GM roedd cwmni Zhejiang Youngman Lotus Automobile yn China wedi dod â thrafodaethau i ben ynglŷn â pharhau i ariannu Saab.

Mae disgwyl i’r llys gymeradwyo’r cais a bydd derbynwyr yn cael eu penodi ar gyfer Saab yn fuan, meddai Swedish Automobile.