Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl dod o hyd i gyrff dau oedolyn a dau blentyn mewn tŷ yn Leeds.

Cafwyd hyd i Richard a Clair Smith a’u plant, Ben, 9 oed a Aaron, un oed, mewn llofft oedd wedi ei ddifrodi gan dân yn eu tŷ yn Pudsey yn hwyr bnawn dydd Sul.

Mae ditectifs yn trin eu marwolaeth fel llofruddiaeth/hunanladdiad. Dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’u marwolaeth.

Roedd Richard Smith, 37, yn gweithio i gwmni dodrefnu siopau a credir ei fod yntau a’i wraig, 36 oed,  wedi symud i’r tŷ rai misoedd yn ôl.

Roedd rhan o’r ffordd yn Sheridan Way, lle mae’r tŷ, wedi ei chau oherwydd pryderon y gallai cemegion peryglus fod yn bresennol.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Paul Taylor o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog nad oedd na beryg o gemegion bellach a’u bod yn parhau a’u hymchwiliad.