Madeleine McCann
Mae heddlu Scotland Yard wedi hedfan i Sbaen fel rhan o’u hymchwiliadau pellach i ddiflaniad Madeleine McCann ym Mhortiwgal, dywedodd yr heddlu heddiw.

Fe ddiflannodd y ferch dair oed tra ar wyliau ym Mhortiwgal yn 2007. Credir bod yr heddlu yn ystyried adroddiadau ei bod wedi ei chipio a’i chludo dros y ffin i Sbaen.

Mae’r heddlu eisoes wedi teithio i Bortiwgal deirgwaith i gwrdd â ditectifs fu’n rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol.

Mewn datganiad dywedodd ei rheini Kate a Gerry Mccann eu bod nhw’n falch iawn bod yr adolygiad o’r achos yn symud ymlaen.