Mae cyn-newyddiadurwr gyda phapur y News of the World wedi honni bod gohebwyr y papur yn gwrando ar negeseuon ffôn pobol yn rheolaidd am ei fod er budd y cyhoedd.
Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw, dywedodd Paul McMullan, fu’n gweithio i’r papur am saith mlynedd, bod golygyddion yn ymwybodol bod negeseuon ffôn yn cael eu hacio ond eu bod wedi troi ar y gohebwyr gan wadu nad oedden nhw’n gwybod unrhyw beth am yr arfer.
“Fe wnaethon ni’r holl bethau yma er mwyn y golygyddion, i Rebekah Brooks a Andy Coulson,” meddai.
Dywedodd Paul McMullan ei fod yn credu mai Andy Coulson oedd wedi dechrau’r arfer o gael gohebwyr i hacio ffonau pan gafodd ei benodi yn ddirprwy olygydd.
Roedd yn feirniadol iawn o’r ddau gyn-olygydd gan ddweud y dylen nhw fod wedi cyfaddef eu bod wedi gofyn i ohebwyr hacio ffonau a’u bod nhw’n gwneud hynny “er budd y darllenwyr, ac er budd y cyhoedd”, meddai Paul McMullan.
Ond yn hytrach na gwneud hynny, meddai, fe wnaethon nhw droi ar y gohebwyr a dweud nad oedden nhw’n gwybod dim am y peth.