Mae dyn 60 oed o ardal y Bontfaen wedi cael ei gyhuddo o droseddau gyrru yn dilyn gwrthdrawiad ym mis Awst.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A48 rhwng Penybont ar Ogwr a’r Bontfaen ar ddydd Mercher, Awst 17.

Fe fydd y dyn yn ymddangos o flaen ynadon Y Barri ar 7 Ragfyr.