Mae car aeth ar goll yn y môr ger Y Mwmbwls yn Abertawe ar ôl cael ei barcio ar lithrfa wedi’i ddarganfod ar lan y môr cyfagos.

Cafodd y car Vauxhall Corsa ei lusgo allan i’r môr brynhawn ddoe, wedi i ddyn yrru’r car i lawr llithrfa gychod ger y Mwmbwls, a chael ei ddal yn y tywod ar y traeth.

Cafodd Gwylwyr y Glannau’r Mwmbwls yr alwad am 2.40pm brynhawn ddoe, a sicrhawyd bod y gyrrwr a’r teithiwr arall allan o’r car yn ddiogel. Ond cyn iddyn nhw fedru symud y car oddi ar y traeth, roedd y llanw wedi dechrau dod i mewn.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau’r Mwmbwls wrth Golwg 360 y bore ’ma fod y môr yn dod i mewn yn uchel iawn ar hyn o bryd, ac yn mynd allan yn bell iawn, a gallai hynny fod wedi cyfrannu at ddiflaniad y car.

“Mae’n debyg bod y car wedi cael ei weld yn arnofio ar wyneb y dŵr ar un adeg,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360. “Ond erbyn i’r heddlu fynd i chwilio am 2am y bore ’ma, pan oedd y llanw’n isel, roedd y car wedi diflannu.”

Fe wnaeth llefarydd gadarnhau brynhawn heddiw fod y car wedi’i ddarganfod ar lan y môr cyfagos.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Diolch i Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau am y fideo.