Mae disgwyl ciwiau hir ym meysydd awyr Prydain ddydd Mercher nesaf.

 Daw’r rhybudd wrth i raddfa streic y sector gyhoeddus dros bensiynau ar  30 Tachwedd ddod yn fwy amlwg.

 Mae teithwyr wedi eu rhybuddio i ddisgwyl ciwiau sylweddol yn yr ardaloedd rheoli croesi’r ffin, wrth i staff mewnfudo a phasport ymuno â’r dwy filiwn o weithwyr sy’n cynnal streic 24 awr ddydd Mercher.

 Gallai’r oedi yn Heathrow bara hyd at 12 awr, ac mae cwmnïau hedfan wedi cael eu rhybuddio y gallai llawer o’u teithiau gael eu gohirio.

 Mae disgwyl i’r ciwiau fod mor hir nes ei bod hi’n bosib y bydd rhai teithwyr yn gorfod cael eu cadw ar awyrennau sydd wedi glanio tra bod y staff yn gweithio drwy’r ciwiau, meddai cwmni BAA.

“Gallai hyn greu tagfeydd yn y maes awyr yn gyflym iawn, gan lenwi mannau parcio’r awyrennau, gohirio nifer o awyrennau sydd i fod i adael, ac achosi rhai awyrennau i gael eu dargyfeirio rhag glanio yn y DU,” ychwanegodd BAA.

 Daeth y rhybudd mewn llythyr a anfonwyd i bob cwmni awyrennau sy’n hedfan i mewn i Heathrow gan bennaeth BAA yn Heathrow, Normand Boivin.

 Mae British Airways a Virgin Atlantic Airways eisoes wedi cyhoeddi na fydd y gost arferol o ail-drefnu dyddiadau teithio yn cael ei roi ar unrhyw un sy’n dymuno newid eu trefniadau er mwyn osgoi teithio ddydd Mercher nesaf.