Fe ddylai £23 miliwn ychwanegol o arian y trethdalwr gael ei ddefnyddio i ariannu pleidiau gwleidyddol mewn ymdrech i wneud y system yn decach, yn ôl argymhellion heddiw.

Fe fyddai’n golygu 50 ceiniog gan bob trethdalwr ac yn golygu bod na uchafswm o £10,000 yn cael ei roi ar roddion unigol a chyfyngiadau ar arian gan undebau llafur.

Mae ymchwiliad gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wedi penderfynu nad oes ffordd arall o gael gwared â dylanwad “arian mawr” ar wleidyddiaeth.

Ond mae aelodau o’r Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur wedi lleisio pryderon am y newidiadau.

Fe allai’r newidadau olygu gostyngiadau sylweddol yn incwm y pleidiau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Christopher Kelly ei fod yn cydnabod ei fod yn gyfnod hynod o anodd i fod yn gofyn i’r cyhoedd i dalu mwy tuag at pleidiau gwleidyddol, ond nad oedd unrhyw ffordd arall o ddelio â’r sefyllfa.