Mae’r Blaid Lafur wedi honni na fyddai caniatáu i bobol brynu tai cyngor am hanner eu gwerth yn datrys yr argyfwng tai.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, David Cameron, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ddatgelu strategaeth tai’r Llywodraeth ddydd Llun.

Un o’r cyhoeddiadau tebygol yw y bydd pobol sy’n byw mewn tai cyngor yn cael eu prynu am hyd at 50% o’u gwerth.

Yng Nghymru mae gan gynghorau’r grym i atal pobol rhai prynu eu tai cyngor pan mae yna ddiffyg tai fforddiadwy ar gael.

Byddai’r newidiadau Llywodraeth San Steffan yn caniatáu gwerthu tai cyngor am hyd at £76,000 yn llai na’u gwerth ar y farchnad.

Mae yna hefyd gynlluniau i gynnig morgeisi sy’n 95% o werth y tŷ.

Ond dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar dai, Jack Dromey, na fyddai’r newidiadau yn datrys y problemau sylfaenol.

“Fe ddywedodd y Ceidwadwyr eu bod nhw’n bwriadu adeiladu tai. Ond mae llai o dai yn cael eu hadeiladu eleni nag am genhedlaeth. Maen nhw’n methu eu prawf eu hunain ac ni fydd y cyhoeddiadau yma o unrhyw ddefnydd wrth hybu adeiladu tai newydd.”

Cyflwynodd Margaret Thatcher yr hawl i brynu tai cyngor yn yr 80au ond penderfynodd y Blaid Lafur gyfyngu ar yr hawl oherwydd pryderon fod tai cyngor yn mynd yn brin.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing mai “dyfalu yw’r cyfan. Fe fydd y strategaeth tai yn cael ei gyhoeddi r wythnos nesaf”.