Brodie Clark
Fe fydd cyn-bennaeth yr Asiantaeth Ffiniau, oedd wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae gyda’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol heddiw.

Mae nhw’n ymchwilio i’r ffrae ynglŷn â’r penderfyniad i lacio’r rheolau yn ymwneud â gwirio pasborts mewn meysydd awyr a phorthladdoedd.

Fe fydd Brodie Clark, 60, yn cael ei holi wrth i dystiolaeth newydd ddod i law sy’n dangos i ba raddau roedd y rheolau wedi cael eu llacio. Fe fydd yn cael ei holi gan aelodau o’r Pwyllgor Materion Cartref.