Mae James Murdoch wedi cyhuddo cyn olygydd y News of the World Colin Myler a’r  cyfreithiwr Tom Crone o gamarwain Aelodau Seneddol ynglŷn â faint roedd o’n ei wybod am hacio ffonau.

Dywedodd Murdoch, cadeirydd News International, ei fod yn gwrthwynebu eu fersiwn nhw o’r hyn ddigwyddodd.

Fe ddaeth ei sylwadau wrth iddo fynd gerbron y  pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon  i gael ei holi am yr eilwaith am yr helynt hacio ffonau.

Roedd James Murdoch yn gwadu ei fod yn gwybod bod mwy nag un gohebydd ar y papur newydd yn hacio ffonau mor bell yn ôl â 2008.

Pan ofynodd yr Aelod Seneddol Llafur Tom Watson i James Murdoch a oedd  wedi camrwain y pwyllgor tra’n rhoi tystiolaeth ym mis Gorffennaf, dywedodd: “Na, nes i ddim.”

Aeth ymlaen wedyn i ddweud ei fod yn credu bod tystiolaeth Colin Myler a Tom Crone yn “gamarweiniol”.

Dywedodd James Murdoch ei fod wedi cael gwybodaeth “anghyflawn” yn 2008 a 2009 am hacio ffonau yn y News of the World. Roedd yn awgrymu y dylai Colin Myler, a gafodd ei benodi yn olygydd  yn 2007 i ymchwilio i’r helynt, fod wedi dweud wrtho pa mor gyffredin oedd hacio ffonau o fewn y papur.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor  John Whittingdale y byddai’n rhaid i Aelodau Seneddol benderfynu nawr a oeddan nhw’n credu tystiolaeth James Murdoch neu Colin Myler a Tom Crone.