James Murdoch
Fe fydd James Murdoch, cadeirydd News International, yn cael ei holi unwaith eto heddiw ynglŷn â’r helynt hacio ffonau.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron pwyllgor o Aelodau Seneddol yn y Senedd.

Fe fydd James Murdoch dan bwysau i egluro gwahaniaethau yn ei dystiolaeth i’r pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon  a’r dystiolaeth gafodd ei roi gan dystion yn ddiweddarach, gan gynnwys cyfreithiwr News International.

Fe fydd yn cael ei herio am ei honiad, pan aeth gerbron y pwyllgor ym mis Gorffennaf, nad oedd wedi cael gwybod bod mwy nag un newyddiadurwr gyda’r News of the World wedi bod yn hacio ffonau.

Daw ei ymddangosiad gerbron Aelodau Seneddol ar ôl i gyn-brif ohebydd y News of the World  honi iddo wrthod cynnig gan yr heddlu i roi tystiolaeth yn erbyn ei gyn-gyflogwyr. Yn ôl Neville Thurlbeck roedd yr heddlu wedi gofyn iddo roi tystiolaeth ar ran yr erlyniad ar ôl dod o hyd i ddogfenau yn ei gartref yn dilyn ei arestio ym mis Ebrill. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu ei fod wedi rhybuddio o’i reolwyr ddwy flynedd yn ôl ynglŷn â hacio ffonau.

Mae disgwyl i James Murdoch hefyd gael ei holi ynglŷn â honiadau fod gohebwyr gyda’i bapurau newydd wedi talu’r heddlu am wybodaeth.