Artem Chigvinstev a Holly Valance Llun: PA
Fe fu un o ddawnswyr Strictly Come Dancing, Artem Chigvinstev, yn dawnsio gydag anaf i asgwrn ei gefn penwythnos diwethaf, heb yn wybod iddo.
Roedd y dawnsiwr 29 oed, sy’n bartner i’r gantores a’r actores o Awstralia, Holly Valance, ar y rhaglen, yn credu ei fod wedi tynnu cyhyr ar ôl ymarfer ddydd Gwener ar gyfer y rhaglen ar BBC 1.
Dim ond pan ddaeth ei brofion meddygol yn ôl, sylweddolodd ei fod wedi anafu asgwrn ei gefn.
Cafodd y pâr 34 allan o 40 am eu jeif – yr ail uchaf o’r noson, tu ôl i’r actores Chelsee Healy a’i phartner Pasha Kovalev.
Ond roedd y Cymry, er mor iach, ym mhell ar eu hôl nhw, gyda’r gyflwynwraig Alex Jones a’i phartner yn bumed, cyn-beldroediwr Cymru Robbie Savage a’i bartner yn chweched, a Russell Grant, sy’n byw ym Maentwrog ar waelod y tabl, yn sgorio 24 o 40.
Gorfod tynnu allan?
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i Artem Chigvinstev, enillydd Strictly y llynedd gyda chyn-actores EastEnders Kara Tointon, dynnu allan o’r gystadleuaeth y penwythnos hwn.
Mae Holly Valance, 28, nawr yn hyfforddi gyda’r dawnsiwr o Seland Newydd Brendan Cole, a allai fod yn perfformio gyda hi dros y penwythnos, wedi i’w bartner ef, Lulu, adael y rhaglen nos Sadwrn.
Mewn datganiad, dywedodd y BBC fod “Artem wedi anafu ei hun tra’n ymarfer ddydd Gwener”.
“Rydyn ni wedi cael gwybod fod y math hwn o anaf yn gwbwl sefydlog, ac mae wedi cael cyngor yn dweud na fyddai parhau i ddawnsio yn cael effaith arno.
“Fe fyddwn ni’n dal i adolygu’r sefyllfa yn dilyn cyngor meddygol yn ystod yr wythnos,” meddai’r BBC.
Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Artem Chigvinstev wedi diolch i bobol am eu consyrn.
“Diolch i chi gyd am eich negeseuon i frysio i wella.”