Charlie Brooker
Fe fydd Channel 4 yn corddi’r dyfroedd gyda chyfres newydd ddychanol sydd wedi cael ei chreu gan Charlie Brooker.

Fe fydd un pennod yn dangos y Prif Weinidog yn cael ei orfodi i gael rhyw gyda mochyn er mwyn rhyddhau tywysoges sydd wedi cael ei herwgipio.

Dywedodd Charlie Brooker, 40, ei fod wedi ei ysgogi i ysgrifennu’r gyfres tair-rhan Black Mirror ar ôl gwylio nifer o ddigwyddiadau “swreal” ar y newyddion.

Mae disgwyl i’r bennod gyntaf gael ei darlledu ym mis Rhagfyr. Mae’r ail bennod, 15 Million Merits, yn dychanu rhaglenni talent ar y teledu, ac mae’n debyg bod gwraig Brooker, Konnie Huq, cyn-gyflwynydd The Xtra Factor ar ITV, wedi cyd-ysgrifennu’r bennod honno.