Bardd y Gadair 2011, sef Aled Evans, Llangynnwr, Caerfyrddin ac Enlli Eluned Lewis, enillydd Tlws yr Ifanc gyda David Thomas, Y Llew Coch, Llandyfaelog
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 5ed gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus trwy’r dydd. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Mrs. Pat Jones, Chwilog, Gwynedd; Llefaru a llên – Y Prifardd Mererid Hopwood, Caerfyrddin; Arlunio – Mrs Rosemary Jones, Idole.
Bu Mr. Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Mr Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Miss Anne Davies, Drefach, Llanelli yn y prynhawn a Mr. John Phillips, Fferm Y Cwm, Cwmffrwd yn yr hwyr. Cafwyd anerchiadau a chyfraniadau gwerthfawr gan y ddau lywydd, y ddau ohonynt â chysylltiad agos iawn gyda bro yr eisteddfod.
Enillwyd Cadair yr eisteddfod gan Aled Evans, Penymorfa, Llangynnwr gyda cherdd gaeth ar y testun “Tân”. Yr oedd hi’n gystadleuaeth safonol a niferus iawn o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn. Yr oedd y gadair hardd a luniwyd yn lleol yn rhoddedig gan David a Marjorie Thomas a’r cwmni, Y Llew Coch, Llandyfaelog. Enillwyd Tlws yr ifanc gan Enlli Eluned Lewis, Croes y Ceiliog, Caerfyrddin.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Ellen Williams am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i Dafydd Hywel Evans (cerddoriaeth) ac i Enlli Eluned Lewis (llefaru) i’r cystadleuwyr gorau lleol o dan 16 oed. Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Y Fro. Cyflwynwyd cwpan her er cof am John Jones am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Gapel Penygraig.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2
1af Fflur Richards
2il Ifan Knott
3ydd Jac Thomas
Unawd Bl. 3 a 4
1af Ellen Williams
2il Bethan Rock
3ydd (cydradd) Lily Pickles ac Iwan Thomas
Unawd Bl. 5 a 6
1af Maja Pickles
2il Millie Butterfield
3ydd Luke Rees
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd
1af Millie Butterfield
2il Iwan Thomas
3ydd (cydradd) Nia Thomas ac Iestyn Richards
Parti unsain dan 16
1af Parti 4, Ysgol Y Fro
2il Parti 3, Ysgol Y Fro
3ydd Parti 1, Ysgol Y Fro
Unawd Offeryn Cerdd 11 – 16
1af Enlli Eluned Lewis
2il Caryl Jones
3ydd Lora Phillips
Parti Recorder
1af Grŵp B, Ysgol Y Fro
2il Grŵp A, Ysgol Y Fro
3ydd
Unawd 11 – 16
1af Enlli Eluned Lewis
2il Delyth Davies
3ydd Dafydd Hywel Evans
LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2
1af Ifan Knott
2il Fflur Richards
3ydd Jac Thomas
Llefaru Bl. 3 a 4
1af Iestyn Richards
2il Iwan Thomas
3ydd
Llefaru Bl. 5 a 6
1af Maja Pickles
2il (cydradd) Nia Thomas a Millie Butterfield
3ydd
Llefaru 11 – 16
1af Enlli Eluned Lewis
2il Osian Knott
3ydd
ARLUNIO (lleol)
Blwyddyn 1 a 2
1af Jac Thomas
2il Oliver North Mullis
3ydd Erin Vaughan
Blwyddyn 3 a 4
1af Joseph Prosser
2il Hannah Thomas
3ydd Sarah Thomas
Blwyddyn 5 a 6
1af Steffan Jones
2il (cydradd) Chloe Solloway a Rhys Thomas
3ydd Nia Thomas
Llawysgrifen Blwyddyn 7 – 11
1af Lora Phillips
CERDD (agored)
Unawd dan 7
1af Ifan Knott
Unawd 7 – 11
1af Sara Louise Davies
Unawd 11 – 14
1af Mared Owen
Unawd 14 – 17
1af Dafydd Hywel Evans
Unawd Alaw Werin dan 17
1af Gwenllian Phillips
Deuawd dan 17
1af Manon James ac Enlli Eluned Lewis
Unawd offerynnol dan 17
Unawd Sioe Gerdd dan 30
1af Delyth Davies
Emyn dan 50
1af Cathryn Davies
Emyn dros 50
1af Mansel Glassbrook
Deuawd agored
1af John Davies a Jennifer Parry
Cenwch i’m yr Hen Ganiadau
1af Jennifer Parry
Her Unawd dros 17
1af John Davies
Parti neu gôr
1af “Only Mynydd Aloud”, Mynydd-y-Garreg
LLEFARU (agored)
Llefaru 7 – 11
1af Sara Evans
Llefaru 7 – 11
1af Sarah Louise Davies
Llefaru 14 – 17
1af Meleri Morgan
Darllen Darn o’r Ysgrythur, dros 17
1af Gwladys Davies
Her adroddiad dan 30
1af Lousie Harding
Adroddiad/llefaru digri
1af Meleri Morgan
Her Adroddiad
1af Louise Harding
LLENYDDIAETH
Y Gadair
1af Aled Evans, Llangynnwr, Caerfyrddin
Tlws yr Ifanc
1af Enlli Eluned Lewis, Croes y ceiliog, Caerfyrddin
Englyn
1af . Aled Evans, Caerfyrddin
Gorffen Limrig
1af Hannah M. Roberts, Llandâf, Caerdydd
Ysgrif ysgolion cynradd lleol
1af Nia Thomas, Ysgol Llangynnwr
Erthygl (Blynyddoedd 7 – 9)
1af Elin Wyn James, Caerfyrddin
Darn o waith creadigol (Blynyddoedd 10 – 11 uwchradd)
1af Niamh Elain, Caerfyrddin
2il Lora Phillips, Ysgol Sul Penygraig
3ydd Lora Phillips, Ysgol Sul Penygraig