Lynne Featherstone Llun: Wikipedia
Fe fydd cyplau hoyw yn cael cymryd rhan mewn partneriaethau sifil mewn Eglwysi ac adeiladau addoli eraill, mae wedi’i gyhoeddi.

Ddoe, fe ddywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Lynne Featherstone bod disgwyl i adeiladau addoli allu gwneud cais i gael eu cymeradwyo ar gyfer perfformio partneriaethau sifil ar gyplau hoyw erbyn diwedd y flwyddyn.

Daw hyn wedi newid i’r Ddeddf Cydraddoldeb yn Nhŷ’r Arglwyddi – newid oedd yn codi’r gwaharddiad ar gynnal seremonïau partneriaethau sifil mewn adeiladau crefyddol.

Mae Stonewall Cymru wedi “croesawu’r” newyddion.

Dywedodd Lynne Featherstone ddoe bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu cydraddoldeb i bobl hoyw a deurywiol ond hefyd i sicrhau rhyddid i grefyddau a chredoau gwahanol bobl.

Ni fydd rhaid i grwpiau crefyddol gynnal seremonïau partneriaethau sifil os yw hynny yn groes i’w credoau.

Eisoes, mae Eglwys Lloegr wedi rhybuddio’r glerigiaeth na ddylen nhw ddarparu gwasanaethau seremonïau sifil i gyplau o’r un rhyw.