Mae gweinidog gofal Llywodraeth Prydain wedi beio gwyddonwyr am helynt y coronafeirws mewn cartrefi gofal cyn ceisio tynnu’r sylwadau’n ôl yn ystod cyfweliad ar Sky News.

Roedd Helen Whately yn cael ei holi gan Kay Burley pan wnaeth hi’r sylwadau am fethiant y llywodraeth i warchod cartrefi gofal rhag y feirws.

Yn ystod y cyfweliad, wnaeth hi amddiffyn y penderfyniad i adael i bobol oedrannus adael yr ysbyty bron ar unwaith a heb fod wedi cael prawf yn y rhan fwyaf o achosion, a hynny er mwyn gwagio gwlâu.

“Wrth i ni ddysgu mwy am y feirws, rydyn ni wedi diweddaru’r canllawiau ar gyfer rheoli’r haint, rydyn ni wedi cymryd mwy o gamau, rydyn ni wedi gweithredu’r cynllun gweithredu gofal cymdeithasol,” meddai.

“Rydyn ni, ar bob cam yn hyn o beth, wedi dilyn y canllawiau gwyddonol.”

Beio’r gwyddonwyr

Wrth ymateb, awgrymodd Kay Burley fod y llywodraeth “yn cymryd cyngor ac yn llunio’r polisi” ac na “allwch chi ddim rhoi hyn ar y gwyddonwyr”.

“Ond mi alla i, oherwydd…” meddai Helen Whately wrth ymateb.

“Allwch chi roi hyn ar y gwyddonwyr?” meddai Kay Burley wedyn.

“Na, na, na – nid dyna roeddwn i wedi bwriadu ei ddweud.”

“Fe ddywedoch chi nawr y gallwch chi roi hyn ar y gwyddonwyr – naill ai mi allwch chi neu na,” meddai’r cyfwelydd wedyn.

“I fod yn glir, eich geiriau chi yw’r rheiny,” meddai’r aelod seneddol.

“Dywedais i, ‘Allwch chi ddim rhoi hyn ar y gwyddonwyr’ ac fe ddywedoch chi y gallwch chi – wnes i ddim rhoi’r geiriau hynny yn eich ceg chi,” meddai Kay Burley.

Eglurhad

Aeth Helen Whately yn ei blaen wedyn i egluro’r hyn roedd hi’n ceisio’i ddweud.

“Yr hyn ro’n i wedi bwriadu ei ddweud oedd ein bod ni wedi derbyn y cyngor gwyddonol bob cam o’r broses hon – rydyn ni wedi cymryd y cyngor gwyddonol ac yna mae dyfarniad am y penderfyniad cywir i’w gymryd.

“Rydyn ni wedi bod yn ceisio gwneud popeth allwn ni i’r rheiny mewn cartrefi gofal oherwydd rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n wynebu mwy o berygl.”