Mae Boris Johnson yn barod i agor y drws i bron dair miliwn o ddinasyddion Hong Kong pe bai Tsieina yn gorfodi cyfraith diogelwch newydd ar y wlad.

Wrth ysgrifennu yn y Times, mae prif weinidog Prydain yn cynnig gwneud yr hyn a fyddai’n un o’r “newidiadau mwyaf”, meddai, yn hanes y system fisa Brydeinig i ganiatáu i 2.85 miliwn o ddinasyddion Hong Kong gael dinasyddiaeth lawn.

Tsieina’n newid y gyfraith

Fe wnaeth Cyngres Genedlaethol y Bobol yn Tsieina gyflwyno cyfraith ddiogelwch i drigolion Hong Kong yn gynharach yr wythnos hon, ac mae hynny wedi rhoi straen ar eu cysylltiadau â Phrydain  a’r Unol Daleithiau.

Bydd y ddeddfwriaeth yn newid y gyfraith sylfaenol, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Hong Kong orfodi mesurau a fydd yn cael eu penderfynu yn ddiweddarach gan arweinwyr Tsieinïaidd.

Mae beirniaid wedi dweud bod y gyfraith yn erydu’r fframwaith “un wlad, dwy system” a oedd yn addo rhyddid i Hong Kong na welwyd yn Tsieina am 50 mlynedd, ac mae protestwyr wedi mynd i’r strydoedd yn Hong Kong i ddangos eu gwrthwynebiad, er gwaethaf y cyfyngiadau ymbellháu cymdeithasol coronafeirws.

Cynnig dewis arall

Dywedodd Boris Johnson y byddai’r gyfraith diogelwch cenedlaethol yn torri’r cytundeb rhwng Tsieina a Phrydain ac y byddai’n erydu ymreolaeth Hong Kong yn ddramatig.

“Os yw Tsieina yn gosod ei chyfraith diogelwch genedlaethol, bydd Llywodraeth Prydain yn newid ein rheolau mewnfudo ac yn caniatáu i unrhyw un sy’n dal y pasbortau hyn o Hong Kong ddod i Brydain am gyfnod wedi ei adnewyddu o 12 mis, a chael mwy o hawliau mewnfudo, gan gynnwys yr hawl i weithio, a allai eu rhoi ar lwybr at ddinasyddiaeth,” meddai.

“Byddai hyn yn gyfystyr ag un o’r newidiadau mwyaf yn ein system fisa yn hanes Prydain.”

“Mae llawer o bobl yn Hong Kong yn ofni bod eu ffordd o fyw, y ffordd y mae Tsieina wedi addo ei chynnal, o dan fygythiad.

“Os yw Tsieina’n bwrw ymlaen i gyfiawnhau eu hofnau, yna ni all Prydain mewn cydwybod fod yn ddi-hid a cherdded i ffwrdd; yn hytrach, byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiadau ac yn cynnig dewis arall.”