Fe fydd yn rhaid i weithwyr iechyd yng Nghymru dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fonws gwerth £500 am eu gwaith yn ystod ymlediad y coronafeirws.
Mae hyn am fod y bonws yn daliad gwaith, ond fe allai Llywodraeth Prydain ddileu’r orfodaeth hon.
Daeth cadarnhad o’r bonws ar gyfer oddeutu 64,000 o weithwyr gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, fis diwethaf.
Mae e’n galw am ddileu’r orfodaeth yn sgil “amgylchiadau eithriadol” y feirws, gan ddweud bod rhai o rai o weithwyr Cymru ymhlith y rhai sy’n cael eu talu’r cyflogau lleiaf.
Yn ôl ITV, dydy Llywodraeth Prydain ddim wedi cytuno i ddileu’r orfodaeth, ac maen nhw’n dweud bod gan Lywodraeth Cymru yr arian i ymdrin â’r sefyllfa.
Ymateb Llywodraeth Prydain
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi cyfraniad gweithwyr cymdeithasol, yn enwedig yn ystod yr argyfwng presennol,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys.
“Rydym hefyd yn deall fod angen i’r ymateb i Covid-19 fod yn un ledled y Deyrnas Unedig, a dyna pam ein bod ni, ynghyd â’n cynlluniau cefnogaeth ar draws y Deyrnas Unedig, wedi rhoi dros £2.2bn o arian i Lywodraeth Cymru i gefnogi pobol, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus.
“Rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Prydain i fesur union sgôp y bonws arfaethedig.
“Ond mae taliadau a wneir mewn perthynas â chyflogaeth yn gofyn bod y dreth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus, oni bai bod eithriad penodol.
“Mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau a’r arian i wneud y taliad yn grynswth os mai ei bwriad yw fod gweithwyr gofal cymdeithasol am elwa o leiafswm o £500.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn siomedig iawn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau trethu’r taliad un tro o ddiolch rydyn ni am ei wneud i ofalwyr,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Roeddem wedi gobeithio y bydden nhw’n camu i fyny fel rydyn ni wedi’i wneud wrth flaenoriaethu’r taliadau hyn ymhlith yr holl ofynion ychwanegol a ddaeth yn sgil Covid.
“Byddwn yn parhau i ymdrin â hyn gyda nhw.”