Cafodd llai na 200 o geir eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig fis diwethaf, yn ôl cymdeithas fasnach.
Dan gysgod Covid-19, dim ond 197 o geir cafodd eu creu ym mis Ebrill, gyda phob un o’r rheiny yn geir moethus. Mae hynny’n gwymp o 71,000 o gymharu â’r un mis y llynedd.
Hefyd, yn ôl Cymdeithas y Cynhyrchwyr a Masnachwyr Ceir (SMMT), roedd y rhan helaeth o’r gwaith o adeiladu’r ceir wedi’i gwblhau cyn y cyfnod clo.
Fe gwympodd lefel cynhyrchu ceir gan 99.7% ym mis Ebrill eleni, o gymharu â’r un adeg y llynedd, a dyma’r lefel isaf ers yr Ail Ryfel Byd.
“Dim syndod”
“O ystyried bod y diwydiant, yn ei hanfod, wedi bod ar gau ers mis Ebrill, dyw’r ffigurau yma ddim yn syndod,” meddai Mike Hawes, Prif Weithredwr SMMT.
“Ond mae’r ffigurau yn pwysleisio’r her anferthol mae’r diwydiant yn wynebu. Roedd incymau bron a bod yn sero fis diwethaf.”
Yn ystod yr un mis dim ond 15 ‘cerbyd masnachol’ – fans ac ati – gafodd eu cynhyrchu. Mae hynny’n gwymp o 99.3% o gymharu â’r un adeg llynedd.