Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ymhlith nifer o wleidyddion sydd wedi llofnodi llythyr trawsbleidiol yn galw am ddiswyddo Dominic Cummings.
Mae prif ymgynghorydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, dan y lach ers iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi gyrru 260 o filltiroedd o Lundain i Durham yn ystod gwarchae’r coronafeirws.
Mae’n dweud iddo wneud y daith honno er mwyn sicrhau gofal i’w fab, wrth iddo fe a’i wraig brofi symptomau’r feirws.
Mae Boris Johnson wedi ei amddiffyn, gan ddweud ei fod e wedi defnyddio “greddf tad”, ond mae gwleidyddion o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr, yn galw ar i Dominic Cummings adael ei swydd.
Mae cynrychiolwyr o Blaid Cymru, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a’r Blaid Werdd wedi llofnodi’r llythyr.
Y llythyr
Yn ôl y llythyr at y prif weinidog, mae’r “digwyddiadau ynghylch eich prif ymgynghorydd, Mr Dominic Cummings, wedi tanseilio’n ddifrifol ymddiriedaeth a hyder mewn cyngor iechyd cyhoeddus”.
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud bod gwyddonwyr hefyd yn dweud bod amddiffyniad Boris Johnson o Dominic Cummings “wedi tanseilio negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n hanfodol i herio’r coronafeirws”.
Yn ôl y gwleidyddion, mae symud Dominic Cummings “yn fater o adfer ymddiriedaeth a hyder mewn cyngor iechyd cyhoeddus”, ac maen nhw’n ei gyhuddo o “dorri nifer o reolau’r gwarchae”.
Mae’r llythyr hefyd yn nodi nad yw Dominic Cummings wedi ymddiheuro, gan bwysleisio “nad oes un rheol i’r rhai sydd ynghlwm wrth ffurfio cyngor iechyd cyhoeddus ac un arall i’r gweddill ohonom”.
Yn wir, meddai’r llythyr, “mae’n fater sy’n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth”.
“Mae wedi uno pobol o bob plaid a phob safbwynt gwleidyddol sy’n credu’n gryf nawr mai eich cyfrifoldeb chi fel prif weinidog yw sicrhau eglurder ac ymddiriedaeth mewn negeseuon am iechyd cyhoeddus.
“Rydym yn glir mai dim ond trwy symud Dominic Cummings o’i swydd heb oedi y gellir cyflawni hyn.
“Yn yr wythnosau i ddod, bydd hi’n hanfodol fod pobol yn cadw at y rheolau a bod ganddyn nhw hyder yn y sawl sy’n eu gosod nhw.
“Y mae er lles pawb fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei chynnal a bod pobol yn prynu i mewn i negeseuon am iechyd cyhoeddus.”