Cafodd 12 o bobol eu harestio ar ôl i grŵp gynnal protest tu allan i’r Senedd yn San Steffan neithiwr.

Roeddan  nhw’n gwrthwynebu cynlluniau i’w gwneud yn anghyfreithlon i sgwatio.

Roedd tua 150 o bobol wedi dod at ei gilydd yn San Steffan toc wedi hanner nos, yn ôl adroddiadau.

Roedd na wrthdaro rhwng yr heddlu a rhai o’r protestwyr. Roedd y rhan fwyaf o’r protestwyr wedi symud o’r safle ond roedd rhyw 50 wedi gwrthod symud.

Cafodd nifer eu harestio cyn i’r safle gael ei glirio erbyn 3am.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau eu bod wedi arestio 12 o bobl ond wedi dweud y gall y ffigwr gynyddu.

Mae disgwyl i wleidyddion drafod mesur yn y Senedd heddiw a fydd yn argymell ei gwneud yn anghyfreithlon i feddianu tir neu eiddo.