Mae gwyddonwyr yn ystyried y posibilrwydd y gallai cyffuriau sy’n teneuo’r gwaed hefyd drin cleifion y coronafeirws.

Mae arbenigwyr yn Brompton yn ymchwilio i’r cyswllt rhwng y feirws a cheuladau yn yr ysgyfaint gan ddefnyddio sganiau CT.

Roedd yr holl bobol a gafodd eu profi wedi dioddef o ddiffyg llif gwaed, sy’n awgrymu ceuladau yn yr ysgyfaint.

Gall hyn egluro pam fod cleifion yn marw o ganlyniad i ddiffyg ar yr ysgyfaint, wrth iddyn nhw ddioddef o ddiffyg ocsigen yn y gwaed.

Yn ôl y gwyddonwyr, gallai cyffuriau trin ceuladau achub bywydau yn y pen draw, ond fe fydd rhaid cynnal profion trylwyr i ddarganfod beth yw peryglon y cyffuriau.

Maen nhw’n rhybuddio na fyddai defnyddio cyffuriau gwrth-geulo ar hap yn ddiogel.

Mae astudiaethau eraill yn Ewrop wedi dod o hyd i geuluo mewn traean o gleifion y coronfeirws.