Mae Michael Gove wedi amddiffyn bwriad Llywodraeth Prydain i anfon plant Lloegr yn ôl i’r ysgol fis nesaf ond ar yr un pryd, mae’n dweud nad oes “sicrwydd llwyr” y byddan nhw’n gwbl ddiogel rhag y coronafeirws.

Mae undebau athrawon yn beirniadu’r cyhoeddiad y bydd rhai ysgolion yn agor eto fis nesaf, ac mae llywodraeth Cymru a’r Alban wedi gwrthod cyflwyno mesurau tebyg.

Yn ôl Michael Gove, bydd ysgolion Lloegr yn agor eto er lles y plant ac mae’n dweud y bydd y llywodraeth yn dysgu o sefyllfaoedd gwledydd eraill fel Denmarc.

Ymhlith y mesurau sy’n cael eu hystyried mae gwasgaru oriau cinio ac amseroedd chwarae gwahanol ddosbarthiadau.

“Efallai ei bod yn wir mewn nifer o ystafelloedd dosbarth cynradd yr es i neu yr aethoch chi iddyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf fod yna gydweithio mewn grwpiau o amgylch bwrdd,” meddai ar raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Bydd rhaid i blant gadw pellter nawr, eistedd wrth ddesgiau, sydd efallai’n ymddangos yn fwy traddodiadol.”

‘Aros gartref yw’r unig ffordd’

Er iddo ddweud y bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgol er eu lles nhw eu hunain, mae hefyd yn dweud mai’r “unig ffordd” o sicrhau nad yw rhywun yn dal y feirws yw “aros gartref”.

“Ond mae yna risg bob amser, o lacio unrhyw un o’r cyfyngiadau hyn, y bydd pobol yn dal y feirws,” meddai.

“Rydym yn cydnabod fod hyn yn galw am gydweithio’n ofalus ag athrawon.

“Ond mae arweinwyr rhai o ysgolion gorau’r wlad wedi dweud y gallan nhw sicrhau bod plant ac athrawon a gweithwyr eraill yn ddiogel.”

Trafodaethau

Daw sylwadau Michael Gove ar ôl trafodaethau hir rhwng undebau athrawon a gweinidogion Llywodraeth Prydain yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg Lloegr, ddoe (dydd Sadwrn, Mai 16) fod angen agor ysgolion ar gyfer blynyddoedd derbyn, un, chwech a 10-12 er eu lles eu hunain.

Ond mae undebau’n mynnu bod yna “gwestiynau heb eu hateb o hyd”.