Mae Boris Johnson yn galw am ragor o amynedd wrth i Lywodraeth Prydain barhau i frwydro yn erbyn y coronafeirws.
Mae prif weinidog Prydain wedi canmol nerth a synnwyr cyffredin pobol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Daw ei sylwadau yn y Mail on Sunday, lle mae’n cydnabod y rhwystredigaeth yn sgil cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y ffordd ymlaen.
Mae’r cyfyngiadau wedi cael eu llacio ychydig yn Lloegr, lle mae pobol yn cael eu hannog i “aros yn wyliadwrus” yn hytrach nag i “aros gartref”.
Ond mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dilyn eu trywydd eu hunain.
Mae pôl newydd yn awgrymu mai dim ond 39% o bobol sy’n cytuno â dulliau’r Llywodraeth, i lawr o 48% yr wythnos ddiwethaf.
Mae 42% yn dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu’r dulliau’n llwyr, i fyny o 36%.
Yn ôl Opinium, dyma’r tro cyntaf i fwy o bobol anghytuno na chytuno â dulliau’r Llywodraeth.
‘Deall rhwystredigaeth’
Yn ôl Boris Johnson, mae e’n “deall y bydd pobol yn teimlo rhwystredigaeth gyda rhai o’r rheolau newydd”.
Ond mae’n annog pobol i fod yn amyneddgar o hyd fel nad yw’r cynnydd yn cael ei golli.
“Rydym yn ceisio gwneud rhywbeth na fu erioed rhaid ei wneud o’r blaen – symud y wlad allan o warchae llwyr, mewn modd sy’n ddiogel ac nad oes risg o beryglu eich gwaith caled chi i gyd,” meddai.
“Dw i’n cydnabod fod yr hyn rydyn ni’n ei ofyn nawr yn fwy cymhleth nag aros gartref, ond mae hon yn broblem gymhleth ac mae angen i ni ymddiried yn synnwyr pobol Prydain.
“Os daliwn ni i gyd ati, yna byddwn ni’n gallu dileu’r cymhlethdodau a’r cyfyngiadau’n raddol… ond rhaid i ni symud yn araf ac ar yr un pryd.”