Mae Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter wedi galw ar y Prif Weinidog, Boris Johnson am “arweiniad clir” yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd i’r cyfyngiadau yn Lloegr nos Sul (Mai 10).
Dywedodd John Apter: “Bydd swyddogion yr heddlu yn parhau i wneud eu gorau, ond rhaid seilio eu gwaith ar arweiniad hollol glir, nid rheolau llac sy’n agored i’w dehongli – byddai hynny’n ofnadwy o annheg ar swyddogion.”
Eglurodd John Apter fod araith Boris Johnson wedi dilyn wythnos o “negeseuon cymysg gan y wasg a arweiniodd at rai pobol yn ymddwyn fel petai’r cyfyngiadau wedi dod i ben eisoes”.
Ychwanegodd: “os nad yw’r hyn a ddisgwylir gan y cyhoedd yn glir, yna bydd yn gwneud y gwaith o blismona yn amhosibl.”
Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn gobeithio cael rhagor o fanylion am ganllawiau’r Llywodraeth gan Boris Johnson ddydd Llun (Mai 11).
Gall hyn gynnwys manylion am gynnydd mewn dirwyon, ac am y newidiadau i’r amser mae pobol yn Lloegr yn cael treulio yn ymarfer corff.
“Gwan”
Daw sylwadau Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr ar ôl i Ffederasiwn yr Heddlu Metropolitan, sy’n cynrychioli heddweision yn Llundain, feirniadu ymateb y Llywodraeth i’r pandemig.
Dywedodd Ken Marsh o Ffederasiwn yr Heddlu Metropolitan wrth BBC Radio 4: “Mae’r ymateb wedi bod yn eithaf gwan.
“Pe bai’r rheolau wedi bod yn llymach o’r dechrau rwy’n meddwl y bydden ni mewn lle gwell nawr.”