Mae oddeutu 50,000 o brofion coronafeirws wedi cael eu hanfon o wledydd Prydain i’r Unol Daleithiau yn dilyn problemau mewn labordy oedd wedi achosi oedi.

Mae nifer y profion sydd wedi’u cynnal wedi gostwng islaw targed Llywodraeth Prydain am y seithfed diwrnod yn olynol.

Mae anfon profion i’r Unol Daleithiau’n un o gamau wrth gefn y llywodraeth, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu rhoi i gleifion “cyn gynted â phosib”.

Mae’r gwaith o ddatrys y sefyllfa ar y gweill, yn ôl y llywodraeth.

Cafodd y profion eu hanfon i’r Unol Daleithiau o faes awyr Stansted.