Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Yn ystod yr wythnosau di-chwaraeon, di-sinema, di-theatr, di-gymdeithas-lenyddol, di-ddim sydd ohonynt, y mae gennyf, fel pawb arall ac eithrio aelodau staff y Gwasanaeth Iechyd, fwy o amser i ddarllen nag erioed. Ar hyn o bryd, yr wyf yn darllen cofiant rhagorol Duncan Hamilton i Harold Larwood, y bowliwr cyflym o Sir Nottingham a enillodd gyfres y Lludw i Loegr yn Awstralia yn 1932-33.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd