Mae pobl ddu bedair gwaith yn fwy tebygol o farw marwolaeth yn sgil y coronafeirws na phobl wyn, yn ôl dadansoddiad newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yng Nghymru a Lloegr, mae dynion du 4.2 gwaith yn fwy tebygol o farw ar ôl cael eu heintio â’r coronafeirws, tra bod merched du 4.3 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i’r feirws.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod pobl o dras Bangladeshi, Pakistani, Indiaidd, neu o dras ethnig gymysg ymhlith y bobl sydd â risg uwch o farw o’r coronafeirws o’i gymharu â phobl wyn.

Roedd y dadansoddiad yn edrych ar sut mae’r coronafeirws wedi effeithio gwahanol grwpiau ethnig rhwng Mawrth 2 ag Ebrill 10.

Mae’r canlyniad yn awgrymu fod y gwahaniaeth o ganlyniad i anfantais gymdeithasol ac economaidd yn ogystal ag amgylchiadau, ond does dim esboniad am rai o’r rhesymau eraill hyd yma, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ar ôl ystyried ffactorau eraill, megis iechyd ac anabledd, mae pobl ddu 1.9 gwaith yn fwy tebygol o farw gyda’r coronafeirws na phobl wyn.