Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson yn ôl yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ers gwella o’r coronaferiws heddiw (Mai 6), gan ddweud wrth y siambr: “Mae hi’n dda bod yn ôl er fy mod i wedi bod i ffwrdd am fwy nag yr oeddwn wedi bwriadu.”

Talodd y Prif Weinidog deyrnged i’r 107 o weithwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r 29 o weithwyr gofal sydd wedi marw o’r coronaferiws.

“Rwyf yn gwybod bod cydymdeimlad yr holl dŷ gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau,” meddai.

Dechreuodd arweinydd y blaid Lafur, Keir Starmer, drwy nodi bod 29,427 o bobl wedi colli eu bywydau i’r coronaferiws.

“Dyma’r mwyaf yn Ewrop bellach, a’r ail fwyaf yn y byd. Dyw hyn ddim yn llwyddiant.

“Felly all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut yn y byd mae hi wedi dod i hyn?”

Atebodd Boris drwy ddweud: “Mae pob marwolaeth yn drasiedi ac mae o’n iawn i dynnu sylw at yr ystadegau arswydus, nid yn unig yn y wlad yma ond o amgylch y byd.

Honnodd fod y Llywodraeth wedi cymryd camau i “achub bywydau a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Cartrefi gofal

Heriodd Keir Starmer y Prif Weinidog ynghylch marwolaethau mewn cartrefi gofal gan ddweud: “Mae ffigyrau ddoe yn dangos, er bod marwolaethau mewn ysbytai yn disgyn, fod marwolaethau mewn cartrefi gofal yn dal i gynyddu.

“Mae’n rhaid i mi ofyn i’r Prif Weinidog – pam nad yw’r Llywodraeth wedi mynd i’r afael â hyn yn barod?”

Dywedodd Boris Johnson nad oedd ffigyrau Starmer yn gywir gan fod “gwelliant amlwg” wedi bod mewn cartrefi gofal dros y dyddiau diwethaf.

“Mae’n rhaid i ni obeithio y bydd hyn yn parhau a byddwn yn sicrhau fod hyn yn parhau,”meddai.

Datganiad wythnos nesaf

Bydd yna ddatganiad ynglyn â chynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y lockdown wythnos nesaf meddai Boris Johnson.

“Mae yna filiynau o bobl ar ffyrlo, fel mae’r Prif Weinidog yn gwybod, a miliynau gyda phlant sy’n ymdrechu i ofalu amdanynt.

“Maen nhw angen gwybod beth yw cynllun y Llywodraeth ar gyfer y cam nesaf.”

Dywedodd y Prif Weinidog mae’r rheswm mae’n bwriadu rhoi diweddariad i’r cyhoedd ddydd Sul (Mai 10) yw bod “rhaid i ni wneud yn siwr bod y data yn cefnogi ein gallu i wneud hyn.”