Mae’r cyswllt rhwng gêm bêl-droed ac ymlediad y coronafeirws yn Lerpwl yn “ddamcaniaeth ddiddorol”, yn ôl dirprwy brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Prydain.

Teithiodd mwy na 3,000 o gefnogwyr Atletico Madrid i’r ddinas ar gyfer y gêm ar Fawrth 11, cyn i’r byd chwaraeon ddechrau gohirio gemau.

Ar y pryd, roedd rhannau o ddinas Madrid eisoes dan warchae ond doedd mynd i gemau pêl-droed ddim yn cael ei ystyried yn beryglus.

“Dw i’n credu y bydd hi’n ddiddorol iawn gweld yn y dyfodol, pan fydd yr holl wyddoniaeth wedi’i chyflawni, pa berthynas sydd rhwng ymlediad y feirws yn Lerpwl a’r feirws sydd ar led yn Sbaen,” meddai’r Athro Fonesig Angela McLean.

“Rydych chi’n codi damcaniaeth ddiddorol iawn yn y fan honno.”

Rasio ceffylau yn Cheltenham

Yn y cyfamser, mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi amddiffyn Llywodraeth Prydain am fethu â gwahardd digwyddiadau chwaraeon yn gynnar yn yr ymlediad, gan gynnwys Gŵyl Geffylau Cheltenham rhwng Mawrth 10-13.

Mae lle i gredu bod nifer fawr o achosion o’r feirws wedi tarddu o’r digwyddiad hwnnw, ond mae Rishi Sunak yn dweud bod y Llywodraeth yn dilyn gwyddoniaeth wrth wneud penderfyniadau i ganslo digwyddiadau.

Mae’n dweud bod “y penderfyniad cywir” wedi cael ei wneud ar y pryd.

“Mae’r sefyllfa rydyn ni’n ymdrin â hi’n ddigynsail, a dw i’n siŵr y bydd pethau y byddwn ni’n eu dysgu o hyn,” meddai.

Yr Alban

Ac mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn rhybuddio na fydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yno am beth amser.

Mae hi’n dweud bod cynnal digwyddiadau y tu ôl i ddrysau caëedig yn rhy beryglus, hyd yn oed, ac y bydd angen ymbellháu’n gymdeithasol hyd nes bod brechlyn ar gael i frwydro’r haint.

Gallai hynny gymryd hyd at 18 mis, meddai.