Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei fod wedi ymestyn ei orddrafft gyda Banc Lloegr er mwyn sicrhau bod ganddo ddigon o arian i ymdopi gyda’r aflonyddwch y mae coronafeirws yn ei achosi.

Dywed y bydd y banc canolog yn ariannu gwariant ychwanegol y Llywodraeth dros dro.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y Trysorlys a Banc Lloegr y byddai hyn yn lleihau’r angen i godi cyllid ychwanegol o farchnadoedd bondiau neu farchnadoedd arian cyfred.

Bydd cyfleuster y Llywodraeth gyda’r banc canolog yn codi i swm na chaiff ei ddatgelu er mwyn galluogi gweinidogion i wario mwy yn y tymor byr.

Bydd arian sy’n cael ei gymryd allan o’r cyfleuster, sydd fel arfer yn darparu swm o oddeutu £400 miliwn, yn cael ei dalu yn ôl cyn gynted â phosib cyn diwedd y flwyddyn, meddai’r Trysorlys.

Cafodd y mesur yma ei ddefnyddio ddiwethaf yn ystod argyfwng ariannol 2008, gan dyfu i £19 biliwn am gyfnod.

“Fel mesur dros dro, bydd hyn yn darparu ffynhonnell o gyllid i’r Llywodraeth os bydd angen esmwytho llif arian a chefnogi gweithrediad llyfn marchnadoedd yn ystod y cyfnod o aflonyddwch yn sgil Covid-19,” meddai datganiad gan Fanc Lloegr.

“Bydd y Llywodraeth yn parhau i ddefnyddio’r marchnadoedd fel ei phrif ffynhonnell o arian, a bydd ei hymateb i Covid-19 yn cael ei ariannu’n llawn gan fenthyciadau ychwanegol drwy weithredoedd rheoli dyled arferol.”